A yw smac gan rieni yn drosedd yng Nghymru nawr?
Ers 21ain Mawrth 2022 mae smac gan riant yn drosedd yng Nghymru. Mae Deddf Plant( Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) wedi ei basio gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2020.
Ydi hyn yn golygu na allaf roi tap ysgafn ar gefn y llaw i’m plenty fel ffurf o ddisgyblu?
Cywir. Mae’n anghyfreithlon i roi tap ysgafn ar gefn llaw neu goes fel modd i ddisgyblu. Cyn hyn roedd ‘ammddiffyniad cosb resymol’ yn diogelu rhieni rhag cael eu criminaleiddio am hyn, ond cafodd yr amddiffyniad ei ddiddymu.
A oedd angen newid y ddeddf?
Nagoedd. Roedd unrhyw ddisgyblu anghytbwys neu ormodol eisoes yn erbyn y gyfraith. Ni ellid defnyddio’r ammddiffyniad cosb resymol mewn achosion o ‘niwed corfforol gwirioneddol’ – a ddiffiniwyd fel unrhywbeth mwy na chochni dros dro ar y croen. Os oedd rhiant yn defnyddio cosb afresymol, roeddynt eisoes yn wynebu dirwy, gorchymyn cymunedol neu hyd at bum mlynedd o garchar.
Ond ar 21ain o Fawrth, diddymwyd amddiffyniad cosb resymol ac felly mae rhieni sy’n defnyddio cosb resymol – hyd yn oed tap ysgafn ar y llaw neu goes- yn debygol o gael eu harestio ac wynebu cyhuddiad troseddol a allai arwain at gofnod troseddol, dirwy neu gyfnod o garchar, ac adfail proffesiynol neu bersonol.
Beth a ddigwydd os bydd rhywun yn fy ngweld yn rhoi smac i’m plentyn?
Mae’r Llywodraeth yn annog unrhyw un sy’n gweld neu’n amau fod plentyn yn cael smac gan riant i alw 999 neu’r gwasanaethau cymdeithasol. Mae hyn yn bod er fod rhai sy’n cefnogi’r gwaharddiad wedi dweud yn barhaus na fydd newid y ddeddf yn criminaleiddio rhieni cariadus.
Mae Canllaw swyddogol hefyd yn dangos y gall yr heddlu ddefnyddio “Cynllun Cefnogi Magu Plant Heb Fynd I’r Llys” os byddant yn penderfynu peidio erlyn y rhiant. Mae’r cynllunia yn anelu at “annog a chefnogi rhieni / warcheidwaid i ddilyn technegau magu plant positif tra’n helpu rhieni/warcheidaid i ddeall pam fod disgyblu corfforol i blant yn annerbyniol ymhob achlysur”.
Pa broblemau allai ddod yn sgil y newid yn y ddeddf?
- Mae 85% o oedolion Cymru wedi derbyn smac. Mae gwahardd cosb resymol yn sicr o ddal rhieni cariadus a’u troi yn droseddwyr.bGallai’r cyffyrddiad lleiaf ddod yn achos am gyhuddiad a omosodiad.
- Hyd yn oed pe bai rhiant yn cael ei ryddhau heb gyhuddiad, gallai natur y cyhuddiad a’r ymchwilio gael effaith andwyol iawn ar y rhiant a’r teulu. Efallai byddai’r plant yn cael eu gwahanu o’u rhieni tra bod ymchwiliad yn digwydd, a gallai rhiant gael eu gadael a chofnod fyddai’n ymddangos ar gais DBS, fyddai yn eu rhwystro rhag gweithio gyda phlant yn y dyfodol. Gallai hynny fod yn andwyol i rai bywydau a bywiolaethau.
- Mae hyn yn golygu ymyrraeth afresymol gan y wladwriaeth mewn bywyd teuluol ac yn tanseilio rhieni. Gallai hyn greu toriad peryglus mewn perthynas rhwng rhieni/cymunedau.
- Gallai plant gael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni heb ddim ond amheuaeth eu bod wedi cael smac.
- Gallai’r gwaharddiad smacio gael ei ddefnyddio fel arf gan rieni sy’n ysgaru, neu deuluoedd ar chwal, gan adael plant mewn sefyllfa fregus.
- Mae heddlu, gweithwyr cymdeithasol ac eraill sy’n ymwneud a diogelu plant eisoes dan bwysau mawr. Bydd y newid yma yn y ddeddf yn sicr o wyro eu hamser a’u hadnoddau gwerthfawr oddi wrth blant sydd mewn perygl gwirioneddol o gael eu camdrin.
Ydi’r cyhoedd yn gefnogol o’r gwaharddiad?
Nac ydynt. Er enghraifft, gofynwyd i 1,019 oedolyn Cymreig mewn pol piniwn yn 2017 “A ddylai smacio plant gan rieni fod yn drosedd?” Atebodd 76% na.
Pa dystiolaeth sydd fod y gwaharddiad o les?
Mae’r rhai sy’n gefnogol i’r gwaharddiad yn nodi Sweden fel esiampl i ddilyn. Hon oedd y wlad gyntaf i wahardd smacio yn 1979 ac sydd felly’n faen prawf defnyddiol gan fod mwy o ddata ar gael i asesu honiadau ymgyrchwyr gwrth- smacio.
Maent yn dadlau fod cosb resymol yn dysgu plant fod trais yn dderbyniol. Ar sail hyn, byddem yn disgwyl i’r ffigurau ddangos lefelau is o drais ymysg plant o ganlyniad i’r gwaharddiad. Mewn gwirionedd, mae’r ffigurau o Sweden yn dangos y gwrthwyneb: codiad o 1,791% o achosion trais rhwng plant a’u gilydd rhwng 1984 a 2010.
Yn ei feirniadaeth o agwedd Sweden tuag at fagu plant, dywed y seiciatrydd David Eberhard fod rhieni wedi dod yn ofnus o ddweud na wrth eu plant o gwbl fel canlyniad i’r gwaharddiad.
Mae astudiaethau yn dangos fod plant wedi bod yn llai parod i dderbyn hawl eu rhieni i’w disgyblu drwy ddulliau eraill o ganlyniad i’r gwaharddiad. Yn 2000, dim on 4% o bobl ifanc yn eu harddegau oedd yn teimlo fod gan eu rhieni’r hawl “I fygwth rhwystro rhywbeth” i lawr o 39% yn y pum mlynedd flaenorol.
Gwnaeth Dr Ashley Frawley, cymdeithasegwraig o Brifysgol Abertawe sylw diweddar ar erthygl gwrth – smacio a ymddangosodd yn The Lancet. Gan uwcholeuo problem fawr gydag astudiaethau sy’n cael eu defnyddio’n aml i gyfiawnhau gwahardd smacio, dywedodd eu bod “yn aml yn methu gwahaniaethu rhwng disgyblaeth ysgafn o fewn teulu cariadus, a chamdrin gan rieni”.
Cyfaddefodd ymgynghoriad Llywodraeh Cymru ar wahardd smacio ei bod yn “anhebygol fod unrhyw dydtiolaeth ymchwil fyddai’n dangos effaith rhoi smac ysgafn ysbeidiol i blentyn yn achosi difrod i blentyn”. Mae taflenni sy’n annog pobl i alw’r heddlu ynghylch rhieni sy’n rhoi smac i’w plant yn datgan “nad oes unrhyw dystiolaeth bendant fod disgyblu corfforol ‘rhesymol’ yn achosi canlyniadau negyddol i’r plentyn…” Prin fod hynny yn sail tystiolaeth gadarn i griminaleiddio rhieni da.
Onid yw smacio yn ffurf o gamdrin?
Na. Mae mwyafrif pobl rhesymol yn gwybod bod gwahaniaeth mawr rhwng camdrin plant a disgyblaeth cariadus gan rieni.
Ni ddylai rhiant sy’n rhoi smac ysgafn i blentyn teirblwydd i’w dysgu peidio rhedeg i’r ffordd gael ei gyfri yn gamdriniwr plant. Mae’r 85% o oedolion Cymreig a gafodd smac achlysurol yn gwybod nad oedd eu rhieni yn eu camdrin.
Mae’r rhai sy’n gofyn am waharddiad smacio yn aml yn cymysgu smacio gyda “curo”. Mae rhieni da yn gallu cosbi’n rhesymol, nid mewn tymer ond dan reolaeth gydag esboniad pan fydd angen. Mae rhieni yn defnyddio ystod o ffyrdd i ddisgyblu plentyn. Yn aml, mae rhiant yn teimlo nad oes angen rhoi smac i blentyn o gwbl, ond i fwyafrif rhieni gall rhoi smac fod yn un ffurf o roi disgyblaeth ymysg llawer. Mae rhan fwyaf o bobl yn cyfri hynny yn rhesymol a theg.
Mae pawb yn derbyn fod rhaid i’r wladwriaeth ymmyryd i ddiogelu plant sydd mewn perygl o gael eu camdrin. Ond o dan y ddeddf newydd, gall rhieni cariadus sy’n defnyddio disgyblaeth ysgafn gorfforol dderbyn cyhuddiad o ymosodiad.
Ai i drigolion Cymru yn unig mae’r ddeddf newydd?
Na. Bydd y ddeddf newydd yn ddilys i unrhyw un sy’n ymweld a Chymru.